Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain
Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain (PATROL) yw’r cydbwyllgor statudol o dros 300 o awdurdodau lleol ac awdurdodau codi tâl sy’n rheoli ac yn gorfodi cyfyngiadau parcio a chyfyngiadau traffig eraill yng Nghymru (y tu allan i Lundain) a Lloegr..
Mae'r cyfyngiadau hyn yn cynnwys parcio, lonydd bysiau, traffig sy'n symud (ee cyffyrdd blychau melyn), sbwriel o gerbydau a Pharthau Aer Glân, yn ogystal â chynlluniau codi tâl eraill ar ddefnyddwyr ffyrdd, gan gynnwys 'Tâl Dart' a 'Llif Mersi'.
Mae gan awdurdodau sy'n rhoi cosbau i fodurwyr am dorri cyfyngiadau o'r fath hefyd ddyletswydd statudol i wneud darpariaeth ar gyfer dyfarniad cyfreithiol annibynnol ar unrhyw apeliadau dilynol. Gwneud darpariaeth ar gyfer y dyfarniad hwn (a gyflwynir gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig) yw swyddogaeth graidd Cyd-bwyllgor PATROL.